Neidio i'r cynnwys
CymraegEnglish

Cymorth TG, Gwefannau a Chaledwedd ym Mhenrhyndeudraeth

Cymorth TG, gwefannau a chyflenwi caledwedd ym Mhenrhyndeudraeth ar gyfer busnesau, lletygarwch a chartrefi, gyda thrwyddedu Microsoft 365 yn cael ei drin yn yr un lle.

Mae Penrhyndeudraeth tua thair milltir o Borthmadog ar hyd yr A487, felly mae ymweliad ar y safle yn daith fer yn hytrach na diwrnod allan. Pentref gweithiol ydyw, gyda'i siopau a'i dafarndai ei hun, ac mae'r gymuned yn cynnwys Minffordd a Phortmeirion, sy'n dod â chyfran gyson o ymwelwyr drwy'r pentref. Ers i Bont Briwet ailagor, mae Harlech ar ochr draw'r aber yn agos hefyd.

Fe wnaethom adeiladu'r wefan ddwyieithog ar gyfer Y Griffin yn y pentref, lle mae ceisiadau am fwrdd, ystafell a Griffin Bach yn mynd yn syth i "inbox" y dafarn. Dyna sydd ei angen ar y rhan fwyaf o fusnesau yma gan wefan: mae'n gweithio ar ffôn symudol, mae'n darllen yn dda yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae ymholiadau'n cyrraedd lle bydd rhywun yn eu gweld.

Penrhyndeudraeth a’r Cyffiniau

Gwefannau, cymorth TG, cyfrifiaduron a Microsoft 365, o un lle. Mae ein meddalwedd cymorth wedi’i gosod ar eich cyfrifiaduron, felly pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le byddwch yn ffonio, byddwn ni’n cysylltu, a’r broblem fel arfer wedi’i datrys tra byddwch yn dal ar y ffôn. Pan fydd angen rhywun ar y safle, rydym yn dod atoch chi.

Ein gwasanaethau

Gwynedd

  • Gwasanaeth ar y safle a danfon caledwedd ar gael

Siaradwch â Ni

Cymraeg a Saesneg ar gael. Cedwir pob ymholiad yn gyfrinachol.